Gair am y Comisiynydd

 

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn llais ac yn eiriolwr annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru, gan sefyll i fyny a siarad ar eu rhan. Mae hi’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n fregus ac mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel ac mae hi’n sicrhau bod gan bob unigolyn hŷn lais sy’n cael ei glywed, dewis a rheolaeth. Mae hi eisiau sicrhau nad yw pobl hŷn yn teimlo’n arunig nac yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn, a’u bod nhw’n cael y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw. Yr hyn mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd fwyaf pwysig iddyn nhw sy’n llywio gwaith y Comisiynydd ac mae eu llais wrth galon popeth mae hi’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru yn lle da i heneiddio - nid dim ond i ambell un, ond i bawb.

 

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn:

·        Hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Annog ymarfer da o ran y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru.

·        Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

 

1. Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau[1]. Mae dau faes yr hoffwn dynnu sylw’r Pwyllgor atynt:

 

Cael Gafael ar Wasanaethau Cymunedol i Bobl Hŷn

 

2. Mae gwasanaethau cymunedol yn alluogwyr allweddol sy’n caniatáu i bobl hŷn fyw bywydau iach ac annibynnol a chyfrannu tuag at dwf economaidd lleol. Mae perygl y bydd cael gwared â gwasanaethau cymunedol allweddol, megis darpariaeth bysiau, toiledau, llyfrgelloedd, dysgu gydol oes a chanolfannau cymunedol/dydd cyhoeddus, yn atal pobl hŷn rhag gwneud hynny, gan niweidio economïau lleol ac effeithio ar ansawdd bywyd pobl hŷn ledled Cymru.

 

3. Mae cadw pobl hŷn yn weithgar ac yn rhan o bethau drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol yn galluogi iddynt adael eu cartrefi i weithio, i wirfoddoli ac i gwrdd â ffrindiau a theulu. Gall pobl hŷn fynd i siopau a busnesau lleol hefyd a gwario ar wasanaethau lleol, gan gryfhau’r economïau lleol wrth wneud hynny.

 

4. Mae fy adroddiad yn 2014 ar wasanaethau cymunedol ac adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn 2015 ar annibyniaeth pobl hŷn yn dangos pwysigrwydd gwasanaethau cymunedol i bobl hŷn[2] [3]. Yr oedd yr adroddiadau hefyd yn cwestiynu a oedd Awdurdodau Lleol yn gwneud digon i sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i’r bobl sy’n eu defnyddio.

 

5. Yn ystod cyfnod o ansicrwydd ariannol i Awdurdodau Lleol, mae llawer o wasanaethau cymunedol mewn perygl o weld gostyngiad o ran gweithgarwch, neu, ar y gwaethaf, eu cau[4]. Heb y gallu i ragweld, gallai penderfyniadau a wneir gan Awdurdodau Lleol i gau’r gwasanaethau ataliol hyn olygu canlyniadau negyddol i ansawdd bywyd pob hŷn ac achosi hyd yn oed mwy o gost i’r pwrs cyhoeddus mewn gwirionedd, gyda nifer gynyddol o bobl hŷn angen pecynnau statudol o ofal cymdeithasol ac iechyd.

 

6. Gallai’r Pwyllgor fod eisiau edrych a yw Awdurdodau Lleol a darparwyr gwasanaeth eraill yn gwneud digon i sicrhau bod gwasanaethau, cyfleusterau a seilwaith sy’n cynnal pobl hŷn yn eu cymunedau yn cael eu gwarchod, a bod modelau amgen sy’n hyrwyddo darparu’n arloesol a chost-effeithiol yn cael ystyriaeth lawn.  Gallai hyn gynnwys y gefnogaeth y maent yn ei darparu i grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill gymryd drosodd y gwaith o redeg/rheoli gwasanaethau drwy gynlluniau Trosglwyddo Asedau Cymunedol a modelau eraill o ddarparu gwasanaethau cymunedol[5].

 

Ymgynghori â Phobl Hŷn ac ansawdd Asesiadau Effaith Cydraddoldeb

 

7. Pan fo gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu cau, dylai Awdurdodau Lleol fod yn ymgynghori â defnyddwyr a defnyddwyr posibl y gwasanaethau hyn gan fynd i’r afael yn briodol â’r effaith y gallai'r enghreifftiau yma o gau eu cael ar wahanol grwpiau o fewn y gymuned. Yr wyf, fodd bynnag, wedi gweld anghysonderau ar draws Cymru, yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gwneud eu penderfyniadau ac mae pobl hŷn wedi dweud wrthyf  eu bod yn teimlo fod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar wasanaethau cymunedol sy’n gymorth hanfodol iddynt gydag ychydig neu ddim ymgynghori, a bod asesiadau effaith yn cael eu hystyried yn ‘symboleiddiaeth’ neu ‘ymarfer ticio blychau’. Fel defnyddwyr rheolaidd ar wasanaethau cymunedol, effeithir yn anghymesur ar bobl hŷn yn aml pan fo gwasanaeth yn cau, ac eto mewn rhai enghreifftiau, ni fydd anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hyn yn derbyn ystyriaeth lwyr, ac nid yw opsiynau amgen o ran modelau a chyflwyno yn cael eu harchwilio’n ddigon manwl.

 

8. O ganlyniad i’r anghysonderau hyn, rwyf wedi cyhoeddi tair o ddogfennau Canllaw Adran 12 ar gyfer Awdurdodau Lleol yn y maes hwn: Ymarfer Gorau ar gyfer Ymgysylltu ac Ymgynghori â Phobl Hŷn; Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol; a Craffu ar Newidiadau i Wasanaethau Cymunedol[6][7][8]. Lluniwyd y dogfennau hyn i gynorthwyo Awdurdodau Lleol i gyflawni eu dyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, i sicrhau y caiff newidiadau i wasanaethau cymunedol eu gwneud gyda phobl hŷn, yn hytrach nac i bobl hŷn, ac er mwyn symud ymlaen â’r dull gweithredu seiliedig ar hawliau, gan sicrhau fod hawliau pobl hŷn yn cael eu cynnwys a’u hadlewyrchu’n llwyr yn y prosesau gwneud penderfyniadau.

 

9. Efallai y Bydd y Pwyllgor yn dymuno edrych yn fwy manwl ar y mater hwn, gan adolygu prosesau ymgynghori ac ymgysylltu gyda phobl hŷn a grwpiau eraill yn y gymdeithas, yn ogystal ag adolygu Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a sut y maent yn dylanwadu ar ddarparu gwasanaeth a newidiadau arfaethedig i wasanaethau cymunedol.

 

Meysydd eraill i’w hystyried

 

10. Ynghylch cynigion y Pwyllgor yn dilyn trafodaethau anffurfiol, dymunaf dynnu sylw at y meysydd canlynol:

 

-      Tlodi mewn gwaith, Diwygio lles a Thlodi: Mae teuluoedd sy’n gweithio a phobl ifanc yng Nghymru mewn mwy o berygl o dlodi yn awr nac yr oeddynt ddegawd yn ôl; fodd bynnag, dylid ystyried pobl hŷn hefyd. Canfu ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan fod tlodi ymysg pobl hŷn yng Nghymru ar gynnydd ar ôl bod yn gostwng am bymtheng mlynedd[9]. Mae hyn yn achosi pryder gwirioneddol, yn enwedig ymysg y ‘bobl hŷn hynaf’ sy’n gweld eu hincwm yn aros yn ei unfan a chostau byw’n cynyddu.  Nid yw’r model traddodiadol o ymddeol yn berthnasol bellach chwaith gan fod nifer gynyddol o bobl hŷn angen gweithio’n hwy i ychwanegu at eu hincwm. Er bod aros yn gyflogedig neu ddychwelyd i weithio’n llwybr pwysig allan o dlodi i bobl hŷn, rwy’n pryderu fod pobl hŷn hefyd yn cael eu heffeithio gan dlodi mewn gwaith ac rwy’n croesawu cynigion y Pwyllgor yn y maes hwn. O ran diwygio lles, rwy’n croesawu cynigion y Pwyllgor i fesur effaith mesurau megis Credyd Cynhwysol ar bobl hŷn ac eraill. Mae gennyf ddiddordeb hefyd yn sut y mae pobl hŷn wedi cael eu heffeithio wrth drosglwyddo o Lwfans Byw i’r Anabl i’r Taliad Annibyniaeth Personol. Mae hawlio budd-daliadau ariannol y mae ganddynt hawl iddynt yn llwybr allweddol arall allan o dlodi i bobl hŷn, ac awgrymaf y dylai’r Pwyllgor edrych yn fanylach ar y mater hwn gan adeiladu ar Ymchwiliad y Pwyllgor i Dlodi yng Nghymru 2015 a’r angen i sicrhau fod pobl hŷn yn hawlio, er enghraifft, Credyd Pensiwn a hawliadau eraill er mwyn gwella’u gwytnwch ariannol[10]. Ar nodyn cysylltiedig, mae gennyf ddiddordeb cael gweld sut yr aethpwyd i’r afael â materion tlodi sy’n wynebu pobl hŷn yn rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, er enghraifft gwasanaethau cynhwysiant ariannol.

 

-      Diwygio ac ad-drefnu llywodraeth leol: Rwyf wedi datgan yn glir o'r dechrau na ddylai unrhyw ddiwygio ar lywodraeth leol golli ffocws ar ansawdd gwasanaethau i ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl hŷn, waeth beth fydd maint, siâp a nifer Awdurdodau Lleol. Rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau nad yw lleisiau pobl hŷn yn mynd ar goll o fewn nifer llai o Awdurdodau Lleol a’r rheini’n rhai mwy, a bod anghenion, pryderon a blaenoriaethau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu’n llawn yn unrhyw strwythur llywodraeth leol newydd.  Yn ogystal, rwy’n cefnogi ymdrechion i gyflwyno mwy o amrywiaeth i lywodraeth leol, gyda nifer gynyddol o fenywod hŷn a phobl hŷn o grwpiau Du a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu hannog i gymryd rhan. Gan y disgwylir cynigion newydd ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn yr hydref, ymddengys mai doeth fyddai i’r Pwyllgor graffu ar y cynigion hyn.

 

11. Rwy’n gobeithio fod y materion hyn yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i’r Pwyllgor.  Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Pwyllgor ac eraill ar y materion hyn dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Mae croeso i chi gysylltu â mi os byddwch angen unrhyw wybodaeth bellach.



[1] http://www.senedd.assembly.wales/mgConsultationDisplay.aspx?id=218&RPID=1507570123&cp=yes

[2] Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; 2014

[3] Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol:  A yw Cynghorau’n Gwneud Digon? Swyddfa Archwilio Cymru; 2015

[4] Helpu Pobl Hŷn i Fyw’n Annibynnol: A yw Cynghorau’n Gwneud Digon? Swyddfa Archwilio Cymru; 2015; 29

[5] http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/community-asset-transfer/?lang=cy

[6] Canllawiau ar Ymarfer Gorau wrth Ymgysylltu ac Ymgynghori â Phobl Hŷn Ynghylch Newidiadau i Wasanaethau Cymunedol yng Nghymru; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; 2014

[7] Asesiadau Effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol: Canllawiau i Awdurdodau Lleol; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; 2016

[8] Craffu ar Newidiadau i Wasanaethau Cymunedol: Canllawiau i Awdurdodau Lleol; Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru; 2016

[9] https://www.bevanfoundation.org/commentary/wales-poor-still-us/

[10] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10252/cr-ld10252-w.pdf